Crynodeb:
Ymunwch â ni a defnyddiwch eich sgiliau, gwybodaeth, angerdd ac egni i’n helpu ni gyrraedd nod o ddyfodol heb arthritis.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a hyderus i gefnogi ein swyddfa genedlaethol yng Nghaerdydd. Bydd gofyn ichi feddu ar brofiad o gynnig cymorth gweinyddol ar gyfer ystod o ddibenion a chydweithwyr, ynghyd â gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch, Diogelu a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, er mwyn sicrhau bod y swyddfa yn ddiogel, yn drefnus ac yn effeithlon.
Amdanom Ni:
Rydym wedi ymrwymo yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiad i gynyddu amrywiaeth ein helusen ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o amrediad eang o gefndiroedd a phrofiadau. Rydym am i’n gweithwyr, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr gynrychioli’r amrywiaeth eang o gymunedau rydym ni’n rhan ohonynt.
Mae dros 10 miliwn o bobl yn byw gydag arthritis. Mae hynny’n un o bob chwe pherson, gyda thros hanner o’r rheiny yn byw mewn poen bob dydd. Mae’r effaith yn anferthol wrth i’r cyflwr ymyrryd yn araf ar fywyd bob dydd – gan effeithio ar allu i weithio, gofalu am deulu, symud heb fod mewn poen a byw yn annibynnol. Ond eto, caiff arthritis yn aml ei ddiystyru fel rhan anochel o heneiddio neu ‘ddim ond ychydig o arthritis’. Nid ydy hyn yn iawn o gwbl. Mae Versus Arthritis yma i newid hyn.
Mae Versus Arthritis yn ymrwymo i gadw plant, pobl ifanc ac oedolion bregus yn ddiogel rhag niwed. Yn ystod y broses recriwtio, byddwn yn dilyn arferion recriwtio diogelach a gwiriadau perthnasol i sicrhau bod ymgeiswyr yn addas i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus.
Rôl y Swydd:
Bydd y Swyddog Cymorth Cenedlaethol yn cefnogi’r tîm cenedlaethol, gan gynnig cymorth busnes rhwydd, didrafferth ac effeithiol er mwyn cynnal gweithrediadau yn y wlad.
Fel rhan o’r swydd hon, byddwch yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol swyddfa genedlaethol, darparu gwasanaeth effeithiol a chymwynasgar gan gynnwys gwasanaeth diogelwch, cynnal a chadw ac iechyd a diogelwch dydd i ddydd ar y safle.
Amdanoch chi:
Os ydy eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn cynnwys y canlynol buasem ni wrth ei boddau yn clywed gennych chi:
- Mae’n debyg na fyddai’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Fodd bynnag, gallai’r gallu i gyflawni rhai dyletswyddau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg fod yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
- Profiad o reoli tasgau ad hoc a phrosiectau ar raddfa fach yn llwyddiannus mewn rôl weinyddol neu debyg, dangos gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch, Diogelu, Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol; gwybod sut i gyfeirio materion at uwch aelodau o’r tîm.
- Profiad o weithio fel rhan o dîm, yn ogystal â gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth a gweithio’n annibynnol gan ddangos gwasanaeth cwsmer ardderchog ynghyd â’r gallu i fod yn bwyllog, yn dringar ac yn ddigynnwrf.
- Profiad o weithio mewn rôl cymorth gyda chyfrifoldeb am fodloni gofynion rheoliadol a chynnig cymorth gweinyddol i staff sy’n gweithio o adref neu gydweithwyr a gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar wasgar ledled y wlad.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Lleoliad: Swyddfa Caerdydd
Cyflog: £27,900 per annum
Cytundeb: Tymor sefydlog hyd at Fawrth yr 31ain 2025
Oriau: Llawn amser 35 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 23:59, Dydd Mercher 3 Ebrill 2024
Teithio: Achlysurol, llai nac unwaith y mis
Gwneud cais:
I gael disgrifiad swydd llawn ac i wneud cais, ewch i’n gwefan Swyddog Cymorth Cenedlaethol – Caerdydd | 35 Tymor sefydlog hyd at Fawrth yr 31ain 2025 (versusarthritis.org)
- Rydym yn cynghori ymgeiswyr i ymgeisio’n fuan gan ein bod yn cadw’r hawl i gau ceisiadau cyn y dyddiad cau sydd wedi’i hysbysebu.
- Byddwn yn cysylltu gydag ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unig.
Nid ydym yn dymuno i asiantaethau na gwerthwyr cyfryngau gysylltu â ni.
“Mae ein ffyrdd hyblyg o weithio yn galluogi ein gweithwyr i fod yn hyblyg gyda sut maent yn gweithio gan sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion yr elusen ar yr un pryd.”
Hyrwyddo a chefnogi cydraddoldeb yn y gweithle.
Mae Versus Arthritis yn Elusen Gofrestredig rhif 207711 ac yn Yr Alban rhif SC041156
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i gael mynediad i’r dolenni yn yr hysbyseb hon, cysylltwch â bev@charityjobfinder.co.uk
Related Jobs
-
Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Cynorthwyo’r Rheolwr Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig ac Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod Barcud yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol, rheoleiddiol, cyfreithiol a moesol am iechyd a diogelwch ei staff, ei gontractwyr mewnol, ei breswylwyr a’r sawl sy’n ymweld â nhw. Hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a diogelwch ar draws pob un o feysydd cymdeithas dai Barcud.
-
Arweinydd Datblygu Cymunedol
Mae T4CB yn chwilio am Arweinydd Datblygu Cymunedol deinamig a phrofiadol i gefnogi tîm bach o staff a gwirfoddolwyr yn y gwaith o adfywio asedau cymunedol Bae Colwyn. Mae’r rôl hon yn hollbwysig o ran mentora gwirfoddolwyr, gan wella mentrau fel Caffi Trwsio Bae Colwyn, Clwb Hapchwarae, Pride Bae Colwyn a’r Picnic Mawr, a meithrin cysylltiadau cryf â sefydliadau cymunedol lleol i feithrin amgylchedd cefnogol ar gyfer datblygu cymunedol ym Mae Colwyn.