This job listing has expired
Mae hon yn swydd newydd a chyffrous i ymarferwr cyllid proffesiynol sy’n teimlo’n frwd dros greu diwylliant o ragoriaeth a helpu tîm i ffynnu mewn busnes uchelgeisiol sy’n ehangu. Bydd y Cyfarwyddwr Cyllid yn rhoi cyngor a chefnogaeth arbenigol i’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd mewn adeg o dwf sylweddol a newid cadarnhaol, i gefnogi’n hamcanion strategol a’n gweledigaeth. Dyma gyfle i arweinydd a all adeiladu perthnasu cryf yn gyflym, yn fewnol ac allanol, a gweithio ar gyflymder i ddarparu datrysiadau ymarferol, masnachol. Gan adrodd yn ôl i’r Prif Weithredwr, byddwn yn ysbrydoli’r tîm cyllid i barhau i adeiladau eu gwybodaeth a’u gallu wrth i’r cwmni esblygu.