Ydych chi eisiau atal digartrefedd ymysg pobl ifanc?
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal?
Ydych chi eisiau bod yn rhan o elusen sy’n tyfu’n gyflym?
Mae Voices From Care Cymru yn cynrychioli barn, hawliau a phrofiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd yn derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal. Ein nod yw sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisi yng Nghymru.
Mae Voices From Care Cymru am recriwtio i’r swydd wag isod:
Swyddog Paratoi x 2 (Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin)
Oriau: Amser llawn 35 awr
Cyflog: £19,285 y flwyddyn
Hyd: Cyfnod Penodol tan fis Mawrth 2020 (posibilrwydd o estyniad)
Gweithio o swyddfa, yng Nghaerdydd a Bangor
Pwrpas y swydd
Bydd y swyddi yn darparu cymorth i bobl ifanc i bontio’n ddiogel o ofal.
Caiff prosiect Paratoi ei roi ar waith yn ardaloedd 3 awdurdod lleol yng Nghymru – Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin a RhCT – i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal.
Bydd yn darparu model cymorth tair haen i’r bobl ifanc hynny sy’n pontio o ofal; cymorth unigol, cymorth gan gymheiriaid, cymorth yn y gymuned. Bydd hyn yn cynnwys
• Hwyluso cymorth cofleidiol yn y gymuned
• Cynyddu gwybodaeth pobl ifanc am eu hawliau wrth gynllunio ar gyfer gadael gofal, yn cynnwys cynyddu’u sgiliau ariannol
• Darparu cymorth a hyfforddiant i’w galluogi i fyw yn annibynnol
• Sefydlu amgylchiadau cyflogaeth ac addysg, a chydweithio i ddatblygu cynllun i sicrhau nad yw pontio o ofal yn tarfu ar waith, hyfforddiant a/neu addysg
Byddem yn croesawu secondiadau
Rydym yn annog ymgeiswyr sydd â phrofiad personol o’r system gofal.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dydd Sul 15fed Medi