Crynodeb:
Y Swyddogion Datblygu yw asiantau cyflawni lleol ein polisïau a’n strategaethau cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau. Nhw yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer unigolion a sefydliadau sydd am gael cymorth, cefnogaeth neu gyllid gennym.
Amdanom Ni:
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bodoli i gefnogi a datblygu’r Celfyddydau yng Nghymru. Mae’n gwneud hynny er budd pobl ledled Cymru ac i hyrwyddo celf Gymraeg yn rhyngwladol. Wedi’i sefydlu gan y Siarter Frenhinol, mae hefyd yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn ddosbarthwr y Loteri Genedlaethol ac yn Elusen gofrestredig.
Am y rôl:
Gan adrodd i Reolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, bydd gan y rôl Swyddog Datblygu hon amrywiaeth o gyfrifoldebau gan gynnwys ‘pecyn’ o arbenigeddau ym maes y celfyddydau neu rai proffesiynol, cymryd rhan mewn cyfarfodydd penderfynu ar gyllid, bod yn berson cyswllt ar gyfer sefydliadau Portffolio Celfyddydau Cymru, a chefnogi maes polisi penodol (yn yr achos hwn, y gwaith Celfyddydau ac Iechyd).
Amdanoch chi:
Os ydych chi’n angerddol ynghylch y celfyddydau, gyda diddordeb mewn iechyd a llesiant, a bod gennych y gallu i reoli a gweithredu mentrau sy’n datblygu blaenoriaethau’r rhaglen, yna hwyrach taw hon yw’r rôl i chi. Bydd yn rhaid i chi rheoli a chyflawni rhaglen amrywiol o brosiectau a thasgau and gyda ffocws ar ddeilliannau a’r penderfyniad i lywio prosiectau a thasgau hyd at eu cwblhau’n ymarferol. Am ddisgrifiad manwl o’r wybodaeth, y profiad a’r nodweddion angenrheidiol, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd.
Yr Iaith Gymraeg:
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Contract: Cyfnod penodol, hyd at 31 Mawrth 2025
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyfweliadau: Dydd Llun 25 Gorffennaf 2022
Sut i Wneud Cais:
I ymgeisio, cliciwch ar y botwm Ceisio am Swydd isod.
Dyddiad cau: 12:00pm (canol dydd) dydd Iau 7 Gorffennaf 2022
Os cewch unrhyw anhawster wrth gael mynediad i’r ddolen i wneud cais, cysylltwch â jane@charityjobfinder.co.uk
Mae’r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae’r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Related Jobs
-
Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth
£23,471 (pro rata ar gyfer rhan amser)
Swyddfa Caerdydd a/neu weithio o gartref
Dyddiad cau: Gorffennaf 18, 2022 yn 9.00ProMo-Cymru Masnachol Cyf yn edrych i recriwtio Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth, swyddi amser llawn a rhan amser ar gael.
-
Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu
Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol, brwdfrydig sy’n angerddol dros dlodi bwyd a gwastraff bwyd yng Nghymru i gyflawni’r rôl Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu.
-
Gweithiwr Cymorth
Ydych chi'n angerddol am gefnogi oedolion gyda anhawsterau dysgu i wneud newidiadau cadarnhaol parhaus yn eu bywydau? Os ydych, hoffem glywed gennych. Mae Menter Fachwen yn edrych i recriwtio Gweithiwr Cymorth brwdfrydig a profiadol sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm deinamig yn un o’n safleoedd yn Nghwm Llanberis.