This job listing has expired
Mae’r Gwasanaeth Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr am recriwtio Swyddog Cymynroddion. Bydd y Swyddog Cymynroddion yn cefnogi’r Brifysgol drwy godi incwm sylweddol o gymynroddion cyfyngedig ac anghyfyngedig er lles blaenoriaethau’r Brifysgol. Bydd yn gwneud hynny drwy siarad wyneb yn wyneb â chyfranwyr posibl a chyfredol, denu cyfraniadau a rheoli eu rhoddion.