Crynodeb:
Rydym yn chwilio am Reolwr Cyllid cymwysedig ac uchel ei gymhelliant i ddarparu arweinyddiaeth ariannol ar gyfer twf AAT a’i ymateb strategol i’r cynnydd yn y galw am waith y sefydliad. Mae’r swydd newydd yn hanfodol ar gyfer cryfhau ein swyddogaethau adrodd a’n systemau cyllid mewnol.
Cefndir Awel Aman Tawe:
Mae Awel Aman Tawe (AAT) yn elusen gofrestredig â rhaglen waith sy’n cefnogi adfywio carbon isel.
Mae AAT yn gweithio ar nifer o brosiectau, yn cynnwys ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaliadwy, effeithlonrwydd ynni, y celfyddydau ac addysg. Mae wedi datblygu dau gwmni cydweithredol, ac wedi codi dros £15m i’w cynnal drwy gyfranddaliadau cymunedol a chyllid banc. Mae AAT yn darparu rheolaeth a gweinyddiaeth i’r ddau:
– Awel Co-op /Awel y Gwrhyd CBC, sy’n berchen ar gynllun gwynt dau dyrbin 4.7MW ar Fynydd y Gwrhyd uwchlaw Pontardawe www.awel.coop
– Egni Co-op sy’n berchen ar 4.3MWp o solar PV ar doeon ar ysgolion, busnesau, ac adeiladau cymunedol ar draws Cymru. Egni yw’r cwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf yn y DU www.egni.coop
– Ar hyn o bryd, mae AAT hefyd yn datblygu Hwb y Gors – canolfan addysg, menter a’r celfyddydau di-garbon newydd yn hen ysgol gynradd Cwm-gors.
Mae tîm AAT yn tyfu – mae’n cynnwys 4 aelod staff amser llawn a 5 rhan amser.
Rôl y Swydd:
Bydd yr ymgeisydd dewisol yn ymrwymedig i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn bwrw ati ar unwaith i gefnogi’r Elusen a’i dau gwmni cydweithredol: ei fferm wynt 4.7MW, Awel www.awel.coop ac Egni, sydd â’r portffolio solar ar doeon mwyaf yn y DU yn barod www.egni.coop
Lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd yma
Gwybodaeth Ychwanegol:
Contract: I gychwyn, cyflogir y person ar gontract tair blynedd gan Awel Aman Tawe (AAT), gyda’r nod o barhau yn amodol ar adolygiad ariannol
Gweithle: Mae gan AAT swyddfa yng Nghwmllynfell, ond bydd y staff swyddfa yn symud i’n datblygiad Hwb y Gors newydd yng Nghwm-gors gydag amser. Rydym yn cefnogi gweithio gartref fel y bo’n briodol.
*Oriau Gweithio: 3-5 diwrnod yr wythnos (37.5 awr yr wythnos pro rata), oriau swyddfa safonol yn bennaf – rydym yn fodlon bod yn hyblyg o ran trefniadau gofal plant, addysg plant ac anghenion domestig eraill. Bydd gweithio gyda’r hwyr neu ar y penwythnos yn ofynnol o bryd i’w gilydd.
Cyfweliadau: 27 Gorffennaf 2022
Sut i Wneud Cais:
I wneud cais lawrlwythwch y dogfennau isod:
Ffurflen Gais
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd
Dyddiad cau: 10 Gorffennaf 2022
Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster i lawrlwytho’r Disgrifiad Swydd neu’r dogfennau Ffurflen Gais e-bostiwch jane@charityjobfinder.co.uk