Crynodeb:
Yn gweithio o fewn y Tîm Gweithredu Cymdeithasol byddech yn trosglwyddo gwasanaethau llinell gymorth gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol wedi’i selio ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y person.
Amdanom Ni:
Cyflwynodd ProMo-Cymru llinell gymorth eiriolaeth gyffredinol yn llwyddiannus – y cyntaf o’i fath yn y DU – yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Wedi’i sefydlu yn 2010, mae Meic yno fel “rhywun ar dy ochr” ac yn adnodd gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth arweiniol yng Nghymru i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Gwasanaeth llinell gymorth gyfrinachol, am ddim, gellir cysylltu ar y ffôn, neges testun, neges wib ac e-bost o 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae Meic yn sicrhau bod llais y plentyn/person ifanc yn cael ei glywed ac yn cael ei weithredu arno, yn caniatáu gwneud penderfyniadau gwybodus a newid. Mae Meic yn cefnogi ac yn hyrwyddo lles a diogelwch plentyn neu berson ifanc.
Rôl y Swydd:
Allwch chi:
- gwneud cysylltiad positif gydag amrywiaeth eang o bobl
- gwneud gwahaniaeth positif gyda’r bobl sydd yn cysylltu
- ymarfer dylanwad tîm positif
- gweithio shifftiau gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn yma
Gwybodaeth Ychwanegol:
Caerdydd a/neu weithio o gartref
Yn ddelfrydol byddech yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg neu fod yn fodlon dysgu
Dyddiadau Cyfweld: 21ain, 26ain, 28ain Mawrth 2019
Bydd angen gwiriad DBS uwch.
Sut i Wneud Cais:
Lawrlwythwch y pecyn cais Yma
Gyrrwch ffurflenni cais electroneg at: info@promo.cymru
Gyrrwch gopi caled o’r ffurflen gais at: 18 Stryd Gorllewin Bute, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 5EP
Mae ProMo-Cymru yn ymrwymedig i gydraddoldeb cyfle.