Canfod Swyddi Elusennol

Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu

Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol, brwdfrydig sy’n angerddol dros dlodi bwyd a gwastraff bwyd yng Nghymru i gyflawni’r rôl Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu.
FareShare Cymru
Dyddiad cau: Gorffennaf 8, 2022 yn 12.00
Marketing and Communications Co-ordinator

Crynodeb:

Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol, brwdfrydig sy’n angerddol dros dlodi bwyd a gwastraff bwyd yng Nghymru i gyflawni’r rôl Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu.

Amdanom Ni:

Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu

Mae FareShare Cymru yn elusen annibynnol ac yn rhan o rwydwaith cenedlaethol FareShare UK o elusennau sy’n ailddosbarthu bwyd dros ben.

Rydym yn mynd i’r afael gyda thlodi bwyd drwy drechu gwastraff bwyd. Rydym yn caffael bwyd dros ben o safon – gan fanwerthwyr, cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd – gan ddenu gwirfoddolwyr i ailddosbarthu i elusennau lleol a grwpiau cymunedol sy’n darparu prydau i bobl fregus (unigolion sy’n ddigartref, yn ddi-waith, unigolion wedi’u hynysu’n gymdeithasol ac sy’n gwella o gaethiwed). Mae ein bwyd yn llinell gymorth hanfodol i blant a theuluoedd, pobl gydag incwm isel, pobl sydd wedi colli’u swyddi, pobl ddigartref, ffoaduriaid, goroeswyr trais yn y cartref, pobl hŷn a gweithwyr allweddol.

Rôl y Swydd:

Bydd y rôl hon yn hyrwyddo ein henw da a chryfhau ein brand ymysg y cyhoedd, y diwydiant bwyd, ein haelodau elusen, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill. Mae’r rôl hon yn annatod i gryfhau gallu FareShare Cymru i hyrwyddo’u gwaith a’r materion sydd ynghlwm â gwastraff bwyd a thlodi bwyd.

Mae hyn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan annatod o’r gwaith i gyflawni cam nesaf ein datblygiad. Mae’r swydd hon yn rôl newydd fel ymateb i dwf chwim yng ngwaith yr elusen eleni. At hyn, rydym yn rhagweld cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer twf pellach yn y dyfodol.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae mwy o wybodaeth am FareShare Cymru ar ein gwefan www.fareshare.cymru neu ar wefan FareShare UK www.fareshare.org.uk

Sut i Wneud Cais:

Mae disgrifiadau swydd ar gael i’w lawrlwytho isod neu a mwy o wybodaeth ar ein gwefan, ewch i fareshare.cymru/staff-vacancies

Disgrifiad Swydd

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster wrth lawrlwytho’r Swydd Ddisgrifiad neu gael mynediad i’r ddolen uchod e-bostiwch jane@charityjobfinder.co.uk

Gofynnwn yn garedig ichi anfon copi o’ch CV a datganiad ategol at jobs@fareshare.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12:00 ar 8 Gorffennaf 2022

 



cysylltwch â ni.

 Rydym ni yma i helpu ateb eich cwestiynau, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen isod.
Dydd Llun i ddydd Gwener 08:00 – 18:00