Crynodeb:
Meithrin symudiad codi ymwybyddiaeth a dylanwadu cymhellgar a chynaliadwy led led Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam lle mae Gofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Gofalu yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
Amdanom Ni:
Elusen yw Credu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar gryfderau i roi cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu. Rydym yn gweithredu trwy dimau lleol sy’n cael eu cefnogi gan reolwyr tîm a thîm a leolir mewn swyddfa fechan yn Llandrindod. Edrychwch ar www.credu.cymru
Rôl y Swydd:
– A oes gennych yr angerdd a’r egni ynghyd â’r meddylfryd a sgiliau strategol i lunio ymgyrch lle mae gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n gofalu yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi mewn ffordd sy’n gweithio iddynt hwy?
– A allech weithio’n effeithiol trwy ysgolion, gwasanaethau a chymunedau?
– A yw eich egwyddorion yn cydfynd ac yn cysylltu gyda’n hegwyddorion ni?
- I werthfawrogi pob unigolyn yn y ffordd rydym yn meddwl, yn siarad ac yn gweithredu. Rydym yn gwneud caredigrwydd yn flaenoriaeth.
- I wrando i ddeall
- I ganolbwyntio ar gryfderau pob unigolyn a galluogi pobl i rannu a defnyddio eu doniau lle y maent yn dymuno
- I ganolbwyntio ar y deilliannau sy’n cyfrif i’r unigolyn a gefnogwn, eu teuluoedd a’u cymunedau
- I wneud yr hyn sy’n cyfrif pan y mae’n cyfrif
- I werthfawrogi perthnasoedd a rhwydweithiau a adeiladwyd ar ymddiriedaeth
- I fod yn ddewr a gwneud yr hyn sy’n iawn, nid yr hyn sy’n hawdd
- I fyfyrio a dysgu a rhoi lle i eraill i fyfyrio a dysgu
Os mai eich ateb yw ‘ie’ cadarn, efallai eich bod wedi canfod eich llwyth.
Lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd yma
Os cewch unrhyw anhawster wrth lawrlwytho’r Swydd Ddisgrifiad neu’r Ffurflen Gais e-bostiwch jane@charityjobfinder.co.uk
Gwybodaeth Ychwanegol:
HYD Y CONTRACT: Tymor penodedig tan 31 Mawrth 2024
LLEOLIAD: Wedi lleoli o gartref gyda theithio o amgylch Ceredigion, Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych
*ORIAU: 30 awr yr wythnos neu rannu swydd (mewn trefniant rhannu swydd, byddai un ymgeisydd yn canolbwyntio ar ogledd Cymru, tra byddai’r llall yn canolbwyntio ar Geredigion)
Mae Uwch Archwiliad DBS Plant ac Oedolion yn ofynnol.
Sut i Wneud Cais:
Anfonwch eich C.V. dros e-bost, ynghyd â datganiad cefnogi heb fod yn fwy na 1000 o eiriau, sy’n dangos sut yr ydych yn diwallu’r manylion personol hr@credu.cymru erbyn 9.00am ar 15th Gorffennaf.
Related Jobs
-
Gweithiwr Prosiect
Oherwydd ehangu gwasanaethau presennol a gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae NYAS Cymru yn chwilio am nifer o swyddi newydd cyffrous. Byddwch yn ymuno â thîm ymroddedig a deinamig sy’n gwneud hawliau plant a phobl ifanc yn realiti yng Nghymru. Rydym yn edrych i recriwtio Gweithiwr Prosiect (Byddai rhannu swydd yn cael ei ystyried).
-
Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu
Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol, brwdfrydig sy’n angerddol dros dlodi bwyd a gwastraff bwyd yng Nghymru i gyflawni’r rôl Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu.
-
Swyddog Cymorth Busnes
£20,444.00 - £22,129.00 yr flwyddyn pro rata
Cymru, Lleoliad hyblyg
Dyddiad cau: 12yp, Dydd Mercher 6 Gorffenaf 2022Mae WWA yn edrych i ehangu ein tîm Cymorth Busnes sy’n darparu cymorth Gweinyddol ar draws y sefydliad cyfan.