Crynodeb:
Adeiladu ar ein prosiect seibiant cyd-gynhyrchiol, dyfeisgar sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cefnogi Gofalwyr i gael rôl gofalu sy’n haws i’w rheoli.
Amdanom Ni:
Elusen yw Credu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar gryfderau i roi cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu. Rydym yn gweithredu trwy dimau lleol sy’n cael eu cefnogi gan reolwyr tîm a thîm a leolir mewn swyddfa fechan yn Llandrindod. Edrychwch ar www.credu.cymru
Rôl y Swydd:
– A oes gennych yr angerdd a’r egni, ynghyd â’r meddylfryd a’r sgiliau strategol i gydlynu prosiect seibiant arloesol sy’n cefnogi gofalwyr i wneud eu rôl gofalu unigryw yn rhai haws i’w rheoli?
– A oes gennych ymroddiad dwfn tuag at arfer myfyrgar sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn?
– A allech gydweithredu gyda Gofalwyr, cydweithwyr o fewn y gwasanaeth a chymunedau?
– A allech ddylanwadu ar yr agenda seibiant lleol a chenedlaethol, gyda chefnogaeth?
– A yw eich egwyddorion yn cydfynd ac yn cysylltu gyda’n hegwyddorion ni?
- I werthfawrogi pob unigolyn yn y ffordd rydym yn meddwl, yn siarad ac yn gweithredu. Rydym yn gwneud caredigrwydd yn flaenoriaeth.
- I wrando i ddeall
- I ganolbwyntio ar gryfderau pob unigolyn a galluogi pobl i rannu a defnyddio eu doniau lle y maent yn dymuno
- I ganolbwyntio ar y deilliannau sy’n cyfrif i’r unigolyn a gefnogwn, eu teuluoedd a’u cymunedau
- I wneud yr hyn sy’n cyfrif pan y mae’n cyfrif
- I werthfawrogi perthnasoedd a rhwydweithiau a adeiladwyd ar ymddiriedaeth
- I fod yn ddewr a gwneud yr hyn sy’n iawn, nid yr hyn sy’n hawdd
- I fyfyrio a dysgu a rhoi lle i eraill i fyfyrio a dysgu.
Lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd yma
Os cewch unrhyw anhawster wrth lawrlwytho’r Swydd Ddisgrifiad neu’r Ffurflen Gais e-bostiwch jane@charityjobfinder.co.uk
Gwybodaeth Ychwanegol:
ARIENNIR GAN: Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys (Cronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru)
HYD Y CONTRACT: Tymor penodedig tan 31 Mawrth 2023 (mae arian i barhau yn obeithiol ond nid yw wedi’i warantu)
LLEOLIAD: Wedi lleoli o gartref gyda theithio o amgylch Powys
Mae Uwch Archwiliad DBS Plant ac Oedolion yn ofynnol.
Sut i Wneud Cais:
Anfonwch eich C.V. dros e-bost, ynghyd â datganiad cefnogi heb fod yn fwy na 1000 o eiriau, sy’n dangos sut yr ydych yn diwallu’r manylion personol hr@credu.cymru erbyn 9.00am ar 11eg Gorffennaf.
Related Jobs
-
Swyddog Marchnata a Hyrwyddo
SCP 20, £26,446 (£26,975 o fis Hydref 2022)
Rhondda Cynon Taf
Dyddiad cau: Gorffennaf 28, 2022 yn 9.00Mae Interlink RCT am recriwtio a Swyddog Marchnata a Hyrwyddo, 37 awr, ystyrir rhannu swydd neu ran amser.
-
Swyddog Datblygu Cymru
£17,752.56 pro rata y flwyddyn yn seiliedig ar oriau rhan-amser (CALL £35,505.13)
Cymru - gweithio gartref
Dyddiad cau: Gorffennaf 27, 2022Diben Swyddog Datblygu Cymru yw hybu twf Cysylltu Bywydau yng Nghymru.
-
Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth
£23,471 (pro rata ar gyfer rhan amser)
Swyddfa Caerdydd a/neu weithio o gartref
Dyddiad cau: Gorffennaf 18, 2022 yn 9.00ProMo-Cymru Masnachol Cyf yn edrych i recriwtio Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth, swyddi amser llawn a rhan amser ar gael.